
Elusen.

Charity
Am dros hanner can mlynedd mae Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion wedi chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod Amgueddfa Ceredigion wrth galon hanes a diwylliant ein sir.
Rydym wedi codi miloedd o bunnau ar gyfer yr Amgueddfa dros y blynyddoedd. Defnyddir yr arian i brynu eitemau ar gyfer y casgliadau megis trysor Oes Efydd Llangeitho, i warchod gwrthrychau’r amgueddfa ac fel arian cyfatebol ar gyfer prosiectau mawr gan gynnwys creu’r siop a’r caffi a gwaith adnewyddu helaeth.
Mae gennym aelodaeth fawr ac rydym yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau bob blwyddyn gan gynnwys sgyrsiau, gweithgareddau, gwibdeithiau a chyfarfod blynyddol.
​
Byddem wrth ein bodd pe byddech yn gallu ymuno â ni i helpu i gefnogi’r Amgueddfa at y dyfodol.
​
Mae Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion yn elusen annibynnol gofrestredig
​
(Rhif 506308).
​For over 50 years the Friends of Ceredigion Museum have played a vital part in making Ceredigion Museum the
cherished heart of our county’s history and culture.
We have raised many thousands of pounds for the museum during our existence. The money is used for purchasing collection items, such as the Llangeitho Hoard of Bronze Age treasure, conservation of museum objects and match-funding for large projects including creating the shop and café and extensive renovations. We have a large membership and organise a variety of events annually, including talks, activities, trips and an AGM. We would be delighted if you would join us to help support the museum into the future.
The Friends of Ceredigion Museum are a registered independent charity.
(No. 506308).​
