Carrie Canham
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyfeillion 2018
Wrth i 2018 ddirwyn at ei therfyn, down hefyd at ddiwedd prosiect ‘Dulliau Newydd’. Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y llynedd, roeddem yn dal yn eithaf penysgafn gan y newidiadau aruthrol a gafwyd yn sgil y prosiect trawsnewidiol hwn: roedd gan yr amgueddfa fynedfa a siop drawiadol ar lefel y stryd a oedd wedi’i chyfuno â'r Ganolfan Groeso; caffi newydd hardd, prysur; offer newydd ar gyfer yr awditoriwm; roeddem wedi cyflwyno llu o weithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac roedd gennym ddwy arddangosfa newydd am hanes y Coliseum.
Bellach, flwyddyn yn nes ymlaen, rwy’n sylweddoli mai dyma ble mae’r gwaith caled yn dechrau oherwydd yr her nawr yw sicrhau bod y newidiadau hyn yn ein helpu i gyflawni amcanion y prosiect, sef: mwy o ymwelwyr a mwy o incwm. Rydym yn gwneud yn dda o ran y ddau, gan ddyblu ein ffigurau ymwelwyr ac ar y trywydd iawn i gyrraedd y targedau incwm, ond mae’r ddau beth hyn wedi gofyn am lawer o sylw a dyfalbarhad gan ein staff rheng flaen a marchnata.
Yn ôl yr arfer, mae ein rhaglen fywiog ac amrywiol o arddangosfeydd a digwyddiadau wastad yn denu ymwelwyr. Dechreusom y flwyddyn gyda Seren Morgan Jones - Mae’n Hen Bryd a guradwyd gan Alice Briggs (Curadur Cynorthwyol), a dynnodd ynghyd bortreadau o ddau gorff o waith blaenorol yr artist o Aberystwyth, Seren Morgan Jones, sef ‘Llygaid Hanes’ a bortreadai merched Cymru yn yr 19eg ganrif a ‘Portreadau o Brotestwyr’ a oedd yn canolbwyntio ar swffragetiaid ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Cafodd darnau o’r wisg Gymreig a fu’n ysbrydoliaeth i Seren eu harddangos o gasgliad yr Amgueddfa, Roedd yr arddangosfa yn rhan o’n dathliad o ganmlwyddiant y bleidlais i ferched a rhoddodd Alice gyflwyniad diddorol tu hwnt yn yr oriel fel rhan o’n digwyddiad i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod - cafwyd noson wefreiddiol o gyflwyniadau a thrafodaethau a orffennodd gyda cherddoriaeth a dawnsio.
Canmlwyddiant arall, wrth gwrs, a nodir gan yr amgueddfa yw diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Ein harddangosfa nesaf oedd ‘Gobaith yn y Rhyfel Mawr’, arddangosfa deithiol gan yr RNLI a adroddai chwe stori arwrol ynglŷn ag achub bywydau drwy gychod achub o amgylch arfordir Prydain, a hynny drwy arddangosfeydd rhyngweithiol a oedd yn addas i’r teulu cyfan. Mae cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf wedi ymestyn drwy gydol y flwyddyn, yn enwedig drwy ein rhaglen weithgareddau a oedd yn cynnwys ffilmiau clasurol megis ‘All Quiet On The Western Front’, yr ystyrir ei bod yn un o’r ffilmiau rhyfel mwyaf pwerus erioed, a ffilmiau prin megis ‘Mrs John Bull Prepared’, sef ffilm fud a ddangoswyd i gyfeiliant y talentog Dr Stephen Briggs ar y piano. Adroddai’r ffilm stori led-ffuglennol am gyfraniad menywod i ymdrech Prydain yn y rhyfel. Heddiw gallwch ymweld â Phrosiect Llongau Tanfor 1914-18, sy’n rhan o’r arddangosfa yn yr awditoriwm i gofio’r Rhyfel ar y Moroedd, a baratowyd gan Banel Ieuenctid Treftadaeth Ceredigion gyda chefnogaeth Anna Evans (Swyddog Dysgu), mewn partneriaeth â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Ein harddangosfa haf, 'Gwneud Sblash', a baratowyd gan Andrea de'Rome (Swyddog Mynediad i Gasgliadau), oedd ein cyfraniad at fenter Croeso Cymru, 'Blwyddyn y Môr'. Roedd yn bwrw golwg dros yr arferion a’r ecsentigrwydd a oedd yn nodweddu perthynas y bobl â’r glan môr. Roedd yr arddangosfa yn cwmpasu sioe bypedau, teithiau ar gefn asyn, cadeiriau cynfas, dillad nofio, gwylanod a ffotograffau i helpu ymwelwyr i ailddarganfod sut y treuliai pobl eu hamser hamdden ar y traeth, beth bynnag oedd y tywydd. Roedd gan ymwelwyr gyfle i wisgo i fyny, cymryd lluniau o’r teulu a chreu eu cardiau post eu hunain i gofio’u hymweliad. I dynnu sylw at yr arddangosfa, cyfarfu’r staff a gwirfoddolwyr â ffotograffydd y Cambrian News yn y bore bach i ymdrochi yn y môr yn ein gwisgoedd haf gorau, ein hetiau ac - yn achos y mwyaf dewr - yn eu gwisgoedd nofio. Gwnaeth Stuart Evans (Dylunydd/Technegydd) ymdrech ragorol yn ei wisg nofio Edwardaidd gyda gwregys, het capten a snorcel, ac felly hefyd Hannah Englekamp (Ymgynghorydd y Cyfryngau Cymdeithasol) a ddangosodd ei bwmp babi i’r bore oerllyd – bu Hannah a Stuart yn nofio hyd yn oed!
Ar ôl y stynt gyhoeddusrwydd hon es i ffwrdd, bron yn syth, ar fy ngwyliau haf estynedig gan deithio’r byd gyda fy nheulu i ailgyfnerthu’n barod ar gyfer y cam nesaf ym mhrosiect Trawsnewid hirdymor yr amgueddfa. Hoffwn gydnabod Pennaeth ein Gwasanaeth, Russell Hughes-Pickering, staff yr amgueddfa a’r gwirfoddolwyr i gyd am eu cefnogaeth i’m galluogi i wneud hyn, yn enwedig ar adeg mor brysur o’r flwyddyn. Dychwelais a sylwi eu bod wedi gwneud jobyn gwych hebdda i!
I orffen y flwyddyn, mae ein harddangosfa ‘Margaret Jones: Dathlu'r 100’ a guradwyd gan Alice Briggs, yn nodi pen-blwydd y darlunydd adnabyddus Margaret Jones. Mae’r arddangosfa yn cynnwys y casgliad mwyaf cyflawn o ddarluniau gwreiddiol a darluniau paratoadol a arddangoswyd erioed o eiddo’r teulu Jones. Hefyd bydd albymau ffotograffau a llyfrau nas cyhoeddwyd yn cael eu harddangos gan roi golwg breifat, na welwyd o’r blaen, ar yr artist a’i bywyd. Siaradodd Margaret Jones yn huawdl iawn yn y digwyddiad agoriadol, a oedd dan ei sang. Yr hyn sy’n gwneud yr arddangosfa hon yn deimladwy yw mai Margaret Jones yw mamgu Seren Morgan Jones, sef testun ein harddangosfa gyntaf yn 2018. Mae wedi bod yn hyfryd dathlu dau artist talentog o Gymru, o’r un teulu, â’u gwaith yn rhychwantu bron i ganrif.
Drwy gydol y flwyddyn rydym wedi cynnal ystod amrywiol iawn o ddigwyddiadau, yn fynych mewn partneriaeth â sefydliadau eraill ac felly rydym wedi cyrraedd cynulleidfaoedd newydd a rhannu’r llwyth gwaith. Mae’r rhaglen weithgareddau wedi rhychwantu amrywiaeth o genrau, ffurfiau celfyddydol a chynulleidfaoedd, o gerddoriaeth drydanol arbrofol avant garde i adloniant teuluol traddodiadol megis sioeau pyped ac adrodd straeon.
Un o fy hoff ddigwyddiadau eleni oedd cyngerdd gan Gwenno, un o sêr y byd pop Cymraeg. Llenwodd yr amgueddfa â chaneuon Cymraeg (a Chernyweg!), ac roedd yn sail i’n cyfraniad at fenter ehangach Kids in Museums. Cafodd aelodau Panel Ieuenctid Treftadaeth Ceredigion eu mentora gan Sarah Morton (Swyddog Cynaliadwyedd) i gynllunio, rheoli a hysbysebu’r digwyddiad a oedd yn cynnwys ymweliad gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas. Cafwyd prynhawn hyfryd a gwnaeth ein gweithgareddau gryn argraff ar y Gweinidog. Roedd cynnig cyfleoedd i aelodau Panel Ieuenctid Treftadaeth Ceredigion feithrin sgiliau trosglwyddadwy i ychwanegu at eu CVs yn un o’r nifer o weithgareddau a oedd wedi arwain at y ffaith fod yr amgueddfa wedi’i henwebu ar gyfer - ac wedi ennill - gwobr ‘Sgiliau Celfyddydol a Chreadigol’ ar gyfer amgueddfeydd a threftadaeth ledled y DU yn 2018.
Mae’r flwyddyn hon, 2018, wedi fy ngwneud yn falch iawn o sut mae'r amgueddfa'n datblygu ac o'r bobl sy'n ei help i ffynnu: y staff, ein gwirfoddolwyr ac, wrth gwrs, y Cyfeillion. Nid ydym ar dir cadarn eto; mae gennym dargedau incwm uchel i gyrraedd a hynny drwy'r siop, y caffi, y rhaglen ddigwyddiadau a’r blwch rhoddion; mae angen inni barhau i gynyddu nifer yr ymwelwyr; mae angen inni wella o ran y gwaith o ddeall a rheoli ein casgliadau gwerthfawr; mae angen inni addasu a newid wrth i'r heriau godi, yn union fel y mae'r Cyfeillion wedi addasu i anghenion cyfnewidiol yr Amgueddfa. Heb y Cyfeillion ni fyddem yn edrych yn ôl ar flwyddyn (a mwy) o drawsnewid, twf a llwyddiant. Heb y Cyfeillion ni fyddem yn edrych ymlaen at gam nesaf ein trawsnewidiad – mae fy niolch diffuant i bob aelod o’r Cyfeillion sydd wedi cyfrannu at lwyddiant ein hymdrechion i godi arian ar gyfer ‘astudiaeth ddichonoldeb’ ar gyfer ein prosiect mawr nesaf: ‘Casgliad ar gyfer y Genedl’ a fydd, yn y pen draw, yn arwain at gasgliadau sy’n cael eu deall yn well, y gofalir amdanynt yn well ac sy’n llawer mwy hwylus i’r cyhoedd, yn ogystal â chyfleusterau addysgol newydd. Pa un ai prynu tocynnau raffl neu eistedd ar y Cyngor, mae pob gweithred o gefnogaeth yn cryfhau dyfodol yr amgueddfa ac rydym yn gwerthfawrogi pob un yn fawr.
Diolch yn fawr.
Carrie Canham
Comments