Dr Susan Davies
Annwyl Gyfeillion
Ar drothwy’r flwyddyn newydd, edrychwn yn ôl, gyda balchder ar sut fu’r cynnydd yn natblygiad yr Amgueddfa. O dan y cynllun ‘Dulliau Newydd’ cafwyd mynediad lefel stryd deniadol ar gyfer pawb, caffi poblogaidd, yn ogystal a Chanolfan Twristiaeth, gyda naws yr ‘Hen Boots’ gyda’i ffenestri hardd. Hefyd fe gawn ein ysbrydoli a mwynhau y neuadd adnewyddol y Coliseum. Datblygodd yr holl yma oherwydd gwaith caled y staff, yr ymgyrchoedd codi arian, ac ymdrechion y gwirfoddolwyr a’r Cyfeillion, ac hefyd y rhaglennu gofalus gan bawb ynghlwm a gweithgareddau’r Amgueddfa.
Bu’r Cyfeillion yn ddiwyd tu ôl y llenni, yn croesawu aelodau newydd i’n Cyngor, adnewyddu’r Cyfansoddiad, cynllunio ein gwe-fan, codi arian - ac ystyried y cynllun newydd nesa! Bydd ein ffocws ar y casgliad eang a gwerthfawr, tua 60,000 o eitemau, sy’n adlewyrchu treftadaeth Ceredigion gyfan, a’i arwyddocâd. Fel rydych yn gwybod, mae’r Amgueddfa yn brin o adnoddau storio addas, er mwyn caniatau mynediad i’r casgliad gan staff, aelodau’r gymuned ac ymchwilwyr, ac mae angen gwell dealltwriaeth o beth sydd yma, i hybu gwell dealltwriaeth a dadansoddiad. Mae hyn yn golygu gwell dulliau storio, arsylwi manwl o’r eitemau yn y casgliad, er mwyn uniaethu dyblygu, neu ddifrod, gwell dealltwriaeth a disgrifiadau o’r eitemau. Bydd angen cymorth y gymuned i gyflenwi’r wybodaeth perthnasol, ond hefyd angen datblygu ddulliau gwell o storio ac asesu mewn ffordd ddichonadwy, drwy dynnu ar well ddealltwriaeth o ddulliau storio, a mynediad cynaladwy, sydd yn gost-effeithiol i’w creu a’u cynnal, sydd yn cyd-fynd a safonau proffesiynol ac ymarfer gorau.
Yn amlwg, mae hyn yn brosiect cymhleth, yn seiledig ar ddealltwriaeth clir o beth sydd ei angen i’w wireddu. Ym mis Gorffennaf 2018, fe gafwyd cais llwyddianus am gyllid, oedd yn caniatau i ni ymgymryd ac astudiaeth dichonol yn gynnar yn 2019. Rydym yn holl ddiolchgar, drwy ‘Cynnal y Cardi’, i dderbyn cyllid Ewropeaidd gogyfer hanner y gost, a rydym eisoes yn ymgyrchu i gasglu tuag at y swm cyflawn ar gyfer hyn, sef £20,000. Pan gwblheir y gwaith yma tua canol 2019, byddwn yn gwybod beth sydd ei angen i gyrraedd ein amcanion. Wrth gwrs, yn ein cynlluniau mae mynediad digidol, ac mae angen sefydlu systemau digidol effeithiol a chynaladwy i wneud hyn.
Dyma’r cam nesa yn natblygiad yr Amgueddfa, yn dilyn y prosiect ‘Dulliau Newydd’, a bydd cymorth Cyfeillion yr Amgueddfa yn dderbyniol mewn unrhyw ffordd y gallant gynnig, o’ch wybodaeth a phrofiad, i ddiddordeb cyffredinol a’ch cefnogaeth.
I’r rhai ohonoch fynychodd y Cyfarfod Blynyddol, fis Tachwedd 2018, fe gofiwch fod Mona Morris, sydd wedi bod mor gefnogol a gweithgar i bob agwedd o waith yr Amgueddfa, yn ymddeol o’i rôl fel llywydd ac ymddiriedolwr, ond i barhau fel aelod o’r Cyngor. Felly, i gloi’r neges hwn, mynegwn ein diolch mawr i Mona am ei chefnogaeth, ac estynnwn groeso cynnes iddi i’n gweithgareddau a’n pwyllgorau, gyda phob dymuniad da yn 2019.
Cyfarchion y Tymor i’r Cyfeillion a Staff Amgueddfa Ceredigion,
Susan J Davies (Cadeirydd)
Comments